top of page

Galeri
Atyniadau

Traethau tywodlyd, baeau agored a chilfachau cysgodol o fewn 5 milltir i'r bwthyn. Mae traethau Aberdaron, Abersoch a Phorthor yn darparu ar gyfer y teulu gyda llefydd bwyta, toiledau a siopau.

 

Ynys Enlli
Ewch i ymweld ag ynys yr 20,000 o saint. Tripiau dyddiol o Borth Meudwy ger Aberdaron. ( 3 milltir)

Snorclo
Nifer o draethau gwych i snorclo yn lleol yn cynnwys Porth Ysgo, Aberdaron, Porthor a Porth Ysgaden.

Cerdded
Mae Bryndol yn leoliad delfrydol i gerdded rhan Orllewinol Llwybr Arfordir Llŷn, a chylchdeithiau eraill yn yr ardal (200 llath)

Dringo
Mae Porth Ysgo yn gyrchfan i ddringwyr sy'n 'bouldro' (1 milltir)

Golff
Mae clybiau Nefyn, Abersoch a Phwllheli, a chwrs ymarfer Penrhos i gyd yn agos (o fewn 15 milltir)

Chwaraeon Dŵr
Mae mynediad i'r môr ar gyfer cychod hwylio a modur yn Aberdaron, Abersoch, Pwllheli, Morfa Nefyn a Nefyn.


Porth Neigwl yw un o'r traethau syrffio gorau yng Nghymru. ( 2 filltir)

 

Diwylliant
Plas yn Rhiw, Plas dŷ bychan a gerddi yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (1 milltir)


Porth y Swnt, Canolfan Rhagoriaeth Arfordirol Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (1 milltir)


Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog. Oriel, caffi a gerddi. (7 milltir)


Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn , Llithfaen (16 milltir)


#Ecoamgueddfa - Ecoamgueddfa gyntaf Cymru

Treftadaeth
Cerddwch i Dre Ceiri, bryngaer fwyaf Gogledd Cymru, ar fynydd yr Eifl, uwchben pentref Llithfaen. (15 milltir)


Ewch i ymweld ag eglwysi a chapeli'r Penrhyn.


Gellir gyrru i gastelli Cricieth, Caernarfon a Harlech mewn llai nag awr.

Atyniadau Eraill


Pentref Eidalaidd Portmeirion a gynlluniwyd gan Syr Clough Williams-Ellis (30 milltir)


Parc Cenedlaethol Eryri (25 milltir)


Llanberis, Siwrne ar y trên i ben y Wyddfa, neu ymweliad â'r Amgueddfa Lechi a'r Mynydd Gwefru. (30 milltir)


Zip World, Blaenau Ffestiniog / Betws y Coed / Bethesda (o fewn awr)

bottom of page