top of page
Bryndol.png

Croeso i Bryndol

Gyda golygfeydd dros Ben LlÅ·n, Ynys Enlli a’r Swnt mae’r bwthyn modern yma yn cynnig lle delfrydol i bobl sydd am ymweld a thraethau’r ardal, cerdded llwybrau’r fro neu wylio adar a bywyd gwyllt. Gyda gardd ddiogel, mae’r bwthyn yn agos i Borth Ysgo, a 3 milltir o bentref glan môr Aberdaron, gyda’i chasgliad o siopau, gwestai a llefydd bwyta. Mae pentref bywiog Abersoch, tref marchnad Pwllheli a Mynyddoedd Eryri yn agos.

​

Wedi ei leoli yng nghanol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol LlÅ·n rydych o fewn tafliad carreg i rostiroedd arfordirol, cromlechi, bryngaerau a thraethau distaw. Cewch eich hudo gan dirlun godidog a gwyllt wedi ei amgylchynu gan y môr. Y lleoliad perffaith ar gyfer dianc am benwythnos gyda ffrinidiau, gwyliau rhamantus ac antur, neu gwyliau i’r teulu.

​

Ar agor drwy’r flwyddyn.

BWTHYN GWYLIAU BRYNDOL

Bryndol

Rhiw

Pwllheli

Gwynedd

LL53 8AH

CYSYLLTWCH GYDA NI

  • Facebook

Hawlfraint © Aberdaron Holidays 2022

bottom of page