Mae gan y bwthyn gwyliau yma ystafell fwyta /eistedd gyda llosgwr coed gyda lle i hyd at 7 o bobl eistedd yn gyfforddus. Mae cegin fodern yn y bwthyn gyda'r offer diweddaraf. Ar y llawr gwaelod mae ystafell wely ddwbl gyda gwely maint brenin ac ystafell ymolchi/toiled gyda chawod uwchben y baddon.
Ar y llawr cyntaf mae dwy ystafell wely dwbl, gyda un gwely sengl ychwanegol mewn un ystafell.
Mae gan y bwthyn :
- Dillad gwely a toweli
- Trydan a gwres canolog
- Coed tân
- Teledu (Freeview)/DVD/Radio/CD
- Rhyngrwyd Band Llydan (Wi-Fi)
- Popty Ping
- Golchwr llestri
- Oergell/rhewgell
- Peiriannau golchi a sychu dillad
- Cadair uchel a giatiau plant
- Sychwr gwallt
- Pwll Pefriog
- Lle parcio i 4 car
- Patio gyda dodrefn
- Mynediad rhwydd
- Croesawir anifeiliaid anwes
- Dim ysmygu
- Addurniadau a choeden dros y Nadolig